Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Troi eich micro:bit yn ddyfais ddigidol syml i'ch helpu i ymlacio drwy arafu a rheoleiddio eich anadlu gan ddefnyddio dilyniant animeiddio syml.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Adeiladu dilyniant animeiddio mewn dolen 'am byth' i barhau i'w redeg.
 - Defnyddio'r eiconau diemwnt parod mawr a bach i greu effaith curo.
 - Ychwanegu blociau oedi i arafu'r animeiddiad i gyflymder ymlaciol.
 - Defnyddio oedi hwy yng nghanol yr animeiddiad, efallai 2 eiliad sy'n 2000 milieiliad.
 - Profi eich cod yn efelychwr MakeCode i sicrhau ei fod yn gweithio yn ôl eich bwriad cyn ei drosglwyddo i'ch micro:bit.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2
3while True:
4    sleep(2000)
5    display.show(Image('00000:'
6                       '00000:'
7                       '00900:'
8                       '00000:'
9                       '00000'))
10    sleep(500)
11    display.show(Image.DIAMOND_SMALL)
12    sleep(500)
13    display.show(Image.DIAMOND)
14    sleep(2000)
15    display.show(Image.DIAMOND_SMALL)
16    sleep(500)
17    display.show(Image('00000:'
18                       '00000:'
19                       '00900:'
20                       '00000:'
21                       '00000'))
22
23Cam 3: Gwella
- Newid yr amserau oedi i gyd-fynd â'r cyflymder anadlu sy'n well gennych.
 - Creu eich delweddau eich hun yn lle'r eiconau diemwnt.
 - Ychwanegu mwy o gamau i wneud eich animeiddiad yn fwy esmwyth.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.

