Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddiwch eich micro:bit gyda dau gebl clip crocodeil i weld a yw deunydd yn dargludo trydan - ffordd syml o gynnal arbrawf gwyddoniaeth glasurol!
Sut i'w ddefnyddio
- Trosglwyddwch y cod isod i'ch micro:bit, neu gwyliwch y fideo codio uchod os ydych chi am greu'r cod eich hun.
 - Ar waelod micro:bit mae pum pin mawr. Pan fyddwch chi'n cysylltu pin 1 a'r pin GND neu ddaear â chebl clip crocodeil, mae'n cwblhau cylched drydanol.
 - Nodyn diogelwch - peidiwch byth â chysylltu'r pinnau GND a 3V yn uniongyrchol â'i gilydd neu fe allech chi niweidio'ch micro:bit.
 - Os byddwch chi'n cysylltu dau gebl clip crocodeil, un i bin 1 ac un i'r pin GND, gallwch chi roi deunydd fel ffoil arian neu cling fflim rhwng pennau'r ddau gebl i brofi a yw'r deunydd yn ddargludol neu'n inswleiddiwr.
 
Sut mae'n gweithio
- Mae'r prosiect yn defnyddio dewis. Os gwneir cylched drydanol (oherwydd bod y defnydd yn dargludo) yna bydd y micro:bit yn dangos calon ar ei sgrîn LED ac yn chwarae'r nodyn C Ganol.
 - Fel arall, os na wneir cylched, bydd y micro:bit yn clirio ei sgrîn LED ac ni fydd nodyn yn chwarae - mae'r micro:bit yn cael ei gyfarwyddo i chwarae nodyn ar amledd o 0Hz.
 - Mae'r rhaglen yn defnyddio dolen am byth neu ddiddiwedd i barhau i brofi nes i chi ddatgysylltu'ch micro:bit o gyflenwad pŵer.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychydd MakeCode)
 - Golygydd MakeCode
 - pecyn batri (dewisol ond argymhellir)
 - efallai y bydd ein fideo cyflwyno pinnau yn ddefnyddiol
 
Efallai byddwch chi'n hoffi
Gellir defnyddio'r daflen gofnodi profwr Dargludedd i gofnodi pa ddeunyddiau sy'n dargludo a pha rai nad ydynt mewn ystafell ddosbarth neu glwb codio.

Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addaswch y cod i ddangos eicon gwahanol neu chwarae sain wahanol os yw'r deunydd yn ddargludol.
 - Rhowch gynnig ar ystod eang o ddeunyddiau gyda'ch profwr dargludedd fel graffit pensil, PlayDoh, a phapur sidan sych a llaith.
 - Gall fod yn hwyl defnyddio bod dynol fel y deunydd prawf! Yn syml, daliwch y ceblau clip crocodeil yn eich dwy law, neu ffurfiwch gadwyn ddynol.
 


