Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio'ch micro:bit i ddweud wrth y byd sut rydych yn teimlo.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae gan y micro:bit ddau fotwm mewnbwn ar y blaen y gallwch eu defnyddio i wneud i bethau ddigwydd.
- Pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A bydd y rhaglen yn adweithio gan ddangos delwedd wyneb hapus ar allbwn y dangosydd LED.
- Mae gwasgu botwm B yn gwneud i wyneb trist ymddangos.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Rhowch gynnig ar ddelweddau emosiwn eraill megis ASLEEP (yn cysgu), CONFUSED (dryslyd) neu MEH.
- Llunio eich 'emosiynau' eich hun gan ddefnyddio y dangosydd LED.
- Defnyddio'r bathodyn i ddangos os oes angen help arnoch neu wneud bathodynnau pleidleisio dosbarth â thiciau neu groesau.
- Llunio ffordd o wisgo eich bathodyn micro:bit gan ddefnyddio edau, neu dâp. (Peidiwch â defnyddio pinnau diogelwch gan gallai'r metel ddifrodi eich micro:bit.)
- Gwnewch y prosiect yn fwy hygyrch trwy ychwanegu cardbord i wneud y botymau yn haws i'w pwyso.
![micro:bit wedi'i ddal ar stribed o gardbord gyda 2 fand rwber. Mae'r cardbord yn cael ei blygu ar bob ochr i wneud fflapiau mawr wedi'u labelu A a B i wasgu pob botwm.](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/f7c00cbd90afa662cfba86fd2568dfe5f0509ba9-4032x3024.jpg?w=435&q=80&fit=max&auto=format)
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
![Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/4d56c9bba1dd53264761c94e9b9e0626d25b2f8d-770x239.png?bg=fff&w=444&q=80&fit=fill&auto=format)
Translation generously supported by the Welsh Government.