Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud eich teimladau'n wirioneddol amlwg gyda wynebau hapus a thrist sy'n fflachio.

Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect bathodyn emosiwn, mae'r rhaglen hon yn dangos gwahanol ddelweddau emosiwn ar allbwn y dangosydd LED gan ddibynnu ar ba fotwm mewnbwn rydych yn ei wasgu.
 - Gall dolennau wneud i setiau o gyfarwyddiadau redeg am byth, ond yma rydym yn defnyddio dolen wedi'i rhifo i fflachio'r ddelwedd 4 gwaith i dynnu sylw yn wirioneddol.
 - Mae dolennau'n syniad da mewn rhaglennu cyfrifiadurol gan eu bod yn arbed ailadrodd yr un cod sawl gwaith, gan wneud eich rhaglen yn fwy effeithlon. Gelwir y syniad hwn hefyd yn iteriad.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Gwneud i'r bathodyn fflachio mwy o weithiau drwy wneud y rhif 4 yn fwy.
 - Gwneud y fflachio'n fwy cyflym neu'n fwy araf wrth newid yr oedi o 200 milieiliadau (0.2 eiliadau).
 - Gwneud iddo fflachio am byth.
 - Defnyddio delweddau emosiwn gwahanol, neu greu eich delwedd eich hun.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


