Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud i'ch gitâr neu allweddell micro:bit chwarae cordiau ag un cyffyrddiad.
![Clustffonau wedi'u cysylltu â phinnau 0 a GND, padiau ffoil tun wedi'u cysylltu â phinnau 1, 2 a GND ar micro:bit](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/ad6cfd1848a3f6dc7839084a617e7ee1318188ef-2532x3067.png?w=653&q=80&fit=max&auto=format)
Sut mae'n gweithio
- Dim ond un nodyn ar y tro y gall y micro:bit chwarae, felly ni all chwarae cord go iawn. Fodd bynnag, gall chwarae cord wedi'i dorri neu arpeggio: cymryd 3 nodyn o unrhyw gord a'u chwarae un ar ôl y llall a byddant yn swnio'n dda gyda'i gilydd.
- Cysylltu micro:bit â chlustffonau er mwyn clywed sain.
- Cysylltu padiau ffoil tun â phinnau'r micro:bit fel yn y prosiect Gitâr 1 - Tonau cyffwrdd.
- Pan fyddwch yn cyffwrdd â phin 1 bydd yn chwarae cord F fwyaf wedi'i dorri, pan fyddwch yn cyffwrdd â phin 2 bydd yn chwarae cord A leiaf wedi'i dorri.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri opsiynol
- clustffonau, swnyn neu seinydd wedi'i bweru
- 5 cebl clip crocodeil
- cardfwrdd, ffoil tun, glud, a siswrn opsiynol i wneud gitâr neu allweddell
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addasu'r rhaglen i chwarae gwahanol gordiau, defnyddio botymau neu ystumiau'r micro:bit i ychwanegu mwy na dau.
- Newid y tempo i wneud i'r cordiau chwarae'n gyflymach. Yn MakeCode gallwch ddefnyddio'r blociau tempo. Yn Python newid y rhif yn y nodyn cyntaf: Mae
F4:4
yn golygu chwarae F yn y 4edd wythfed am hyd o 4. Gwneud yr ail 4 yn rhif llai a gweld beth sy'n digwydd. - Defnyddio dolennau i barhau i chwarae'r cordiau barhau fel teclyn arpeggio (nodwedd rhai allweddellau a syntheseiswyr sy'n achosi i arpeggio barhau i chwarae cyhyd â bod allwedd yn cael ei dal i lawr).
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
![Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/4d56c9bba1dd53264761c94e9b9e0626d25b2f8d-770x239.png?bg=fff&w=444&q=80&fit=fill&auto=format)
Translation generously supported by the Welsh Government.