Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Goleuo'ch micro:bit â chariad drwy ddangos calon.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae hwn yn brosiect cyntaf gwych i ddysgu sut i raglennu'ch micro:bit!
 - Pan fydd y rhaglen yn cael ei throsglwyddo (ei fflachio) i'ch micro:bit, bydd y prosesydd yn mynd trwy'r cyfarwyddiadau a roddoch iddo.
 - Mae'r rhaglen yn dangos llun o galon ar allbwn dangosydd LED y micro:bit.
 - Mae'r galon yn aros ar y dangosydd cyhyd â bod ganddo bŵer oherwydd nad ydych wedi rhoi unrhyw gyfarwyddiadau pellach iddo i ddangos unrhyw beth arall.
 - Mae gan y micro:bit set o ddelweddau parod eraill gallwch eu defnyddio yn eich prosiectau.
 - Gwneir lluniau ar sgriniau cyfrifiaduron, ffonau a thabledi gan ddefnyddio dotiau a elwir yn 'picseli'. Mae gan ddangosydd y micro:bit 25 picsel LED wedi’u trefnu mewn grid 5 x 5.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - Cebl USB os ydych yn defnyddio cyfrifiadur
 - pecyn batri (os ydych yn defnyddio ffôn neu dabled).
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Rhowch gynnig ar ddewis lluniau parod eraill megis HAPPY (hapus), DUCK (hwyaden) neu GHOST (ysbryd).
 - Ydych yn gallu dangos mwy nag un delwedd?
 - Gweld a allwch wneud eich lluniau eich hun drwy archwilio'r prosiectau eraill isod.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


