Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gyda dau micro:bit, gallwch gadw golwg ar eiddo neu anifail anwes gwerthfawr gan ddefnyddio negeseuon radio.

Sut mae'n gweithio
- Mae'n defnyddio dwy raglen, rhaglen trosglwyddo (tywysydd) a derbynnydd.
 - Fflachiwch y rhaglen trosglwyddo ar y micro:bit cyntaf, cysylltwch y micro:bit cyntaf â phecyn batri a'i roi yn neu ar eich peth gwerthfawr.
 - Gan ddefnyddio dolen ddiderfyn, mae'n darlledu neges 'helo' pŵer isel drwy radio ar grŵp 73 bob 2 eiliad. (Gallwch ddefnyddio unrhyw rif grŵp radio o'ch dewis rhwng 0 a 255, gwnewch yn siŵr bod y rhaglen derbyn yn defnyddio'r un rhif. Mae grwpiau fel sianeli ar y teledu neu set radio symud a siarad.)
 - Bydd y rhaglen derbyn yn dangos calon i chi ar allbwn y dangosydd LED am 1 eiliad bob tro y bydd yn derbyn neges ar yr un sianel. Oherwydd ein bod yn defnyddio trosglwyddydd pŵer isel mae'n rhaid i chi fod yn eithaf agos at y trosglwyddydd i'w weld, felly byddwch yn gwybod bod eich peth gwerthfawr gerllaw.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- 2 micro:bit
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - O leiaf 1 pecyn batri
 - rhywbeth gwerthfawr i gadw golwg arno
 
Cam 2: Codio
Trosglwyddydd
Derbynnydd
Cam 3: Gwella
- Cynyddu'r cwmpas drwy gynyddu pŵer y trosglwyddydd radio. Gall y pŵer fod yn unrhyw rif o 0 i 7.
 - Gwneud i galon 'guro’ ar ddangosydd LED y trosglwyddydd yn ogystal â'r derbynnydd.
 - Gallech ddefnyddio'r rhaglenni hyn fel gêm helfa drysor syml - cuddiwch y trosglwyddyddion a herio ffrind i ddod o hyd iddynt.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


