Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Creu eich eicon haul eich hun ar gyfer eich micro:bit.

Sut mae'n gweithio
- Mae gan y micro:bit lawer o luniau parod, ond weithiau byddwch eisiau ychwanegu eich lluniau eich hun.
 - Mae'r rhaglen hon yn creu delwedd o'r haul gan ddefnyddio grid 5x5 LEDs dangosydd y micro:bit.
 - Mae cyfrifiaduron, ffonau a thabledi'n defnyddio lluniau bach i gynrychioli pethau a syniadau gan ddefnyddio nifer fach o ddotiau, neu bicseli, fel eiconau neu emojis.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 - papur â sgwariau ar gyfer dylunio eich dyluniadau eich hun (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Tynnu llun eich fersiwn eich hun o'r haul, neu seren neu leuad.
 - Gwneud i'r haul ymddangos os byddwch yn gwasgu botwm A, lleuad os byddwch yn gwasgu botwm B.
 - Defnyddio dolen i wneud i'r haul amrantu neu godi.
 - Yn Python, defnyddio ystod o rifau (nid 9 yn unig) i ddangos pelydrau'r haul yn pylu wrth iddynt fynd ymhellach o'r canol.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


