Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Mae'r prosiect hwn yn ychwanegu rheolydd lefel sain at jiwcbocs y micro:bit. Mae'n chwarae gwahanol donau os byddwch yn gwasgu botwm A neu B a gallwch hefyd addasu lefel y sain wrth wyro eich micro:bit i'r chwith neu i'r dde.
Sut mae'n gweithio
- Os byddwch yn defnyddio micro:bit go iawn, cysylltwch y micro:bit â chlustffonau fel hyn:
 

- Cedwir lefel y sain bresennol mewn newidyn a elwir yn volume.
 - gall rhifau lefel sain micro:bit fynd o 0 i 255, felly ar ddechrau'r rhaglen rydym yn gosod lefel y sain rhywle yn y canol, i 128.
 - Mae'r mesurydd cyflymiad yn synhwyro pan fyddwch yn gwyro'r micro:bit i'r chwith a'r dde.
 - Os ydych yn ei wyro i'r chwith, mae'r newidyn lefel sain yn cael ei leihau gan 32. (Dewisom 32 yn hytrach na 1 fel eich bod yn gallu clywed y newid pan fyddwch yn ei wyro unwaith.)
 - Pan fyddwch yn ei wyro i'r dde, mae'r newidyn lefel sain yn cael ei gynyddu gan 32.
 - Rydym yn defnyddio blociau os... wedyn i atal y newidyn lefel sain rhag mynd yn is na 0 neu'n uwch na 255 gan na all lefel sain y micro:bit fynd yn is na 0 neu'n uwch na 255.
 - Mae bloc diderfyn yn parhau i ddiweddaru lefel sain gwirioneddol y micro:bit o'r newidiadau rydych yn eu gwneud i'r newidyn lefel sain pan fyddwch yn ei wyro. Mae hefyd yn diweddaru'r graff bar fel y gallwch weld cynrychiolaeth weledol o osodiad presennol lefel sain.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - os byddwch yn defnyddio micro:bit go iawn, pâr o glustffonau a dau gebl clip crocodeil
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Rhaglennu eich tonau eich hun.
 - Ychwanegu swyddogaeth tewi pan fyddwch yn gwasgu botymau A+B ar yr un pryd.
 - Addasu rheolydd y lefel sain fel ei fod yn cael ei reoli gan ystumiau eraill megis ysgwyd.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.

