Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio'ch micro:bit i greu prototeip o oleuadau LED a all atal pysgod, crwbanod ac adar diangen rhag cael eu rhwydo mewn rhwydi pysgota.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o gyfres a grëwyd i gynnig gweithgareddau datrys problemau a phrototeipio i archwilio technoleg fel ateb i heriau'r Nodau Byd-eang ar gyfer Datblygiad Cynaliadwy.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i wneud prototeip ar gyfer prosiect mwy
 - Sut mae cyfrifiaduron yn cymryd darlleniadau o fewnbynnau, yn prosesu'r data i wneud allbynnau gwahanol yn dibynnu ar werth darlleniadau synhwyrydd
 
Sut mae'n gweithio
- Mae prototeip yn fodel gweithio a ddefnyddir i brofi syniadau. Cofiwch gadw'ch micro:bit i ffwrdd o ddŵr go iawn!
 - Mae'r rhaglen hon yn defnyddio LEDs y micro:bit fel synhwyrydd golau. Mae'n dweud wrth y micro:bit am droi yr LEDs ymlaen pan fydd y golau yn llai na lefel benodol (50).
 - Gorchuddio dangosydd LED eich micro:bit, i efelychu bod yn ddwfn yn y môr, a dylai oleuo.
 - Efallai y bydd angen i chi newid y rhif 50 yn dibynnu ar amodau goleuo eich lleoliad. Os yw'n goleuo'n rhy hawdd, defnyddiwch rif llai.
 - Os oes gennych seinydd wedi'i gysylltu, neu os ydych yn defnyddio'r micro:bit newydd â sain, mae hefyd yn rhoi sain dirgryniad amledd uchel i helpu i gadw creaduriaid eraill i ffwrdd o'r rhwydi.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 - ategolyn seinydd neu micro:bit newydd â sain (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newid y patrwm LED i animeiddiad o olau dirgrynol
 - Creu eich seiniau eich hun i ddychryn creaduriaid nad ydych eisiau eu dal i ffwrdd
 - Ychwanegu radio i reoli'r goleuadau a sain o bell
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


