Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Olrhain y tymheredd uchaf ac isaf drwy adael y rhaglen hon yn rhedeg ar micro:bit.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Fel y Prosiect thermomedr, mae hwn yn defnyddio'r synhwyrydd tymheredd y tu mewn i CPU (uned brosesu ganolog) y micro:bit i fesur y tymheredd mewn °C (Celsius).
 - Mae'r rhaglen hon yn cadw golwg ar y tymheredd isaf ac uchaf a gofnodwyd gan ddefnyddio 3 newidyn: currentTemp yw'r darlleniad tymheredd presennol, max yw'r uchafswm a min yw'r lleiafswm.
 - Ar ddechrau'r rhaglen maent i gyd yn cael eu gosod i'r un gwerth; mae dolen diderfyn (am byth) yn sicrhau ei bod yn cymryd darlleniad bob dwy eiliad, ac mae'r rhaglen yn cymharu'r tymheredd presennol â'r newidynnau max a min.
 - Os yw'r tymheredd presennol yn llai na'r (& lt;) gwerth sy'n cael ei storio yn y newidyn min, bydd yn newid y newidyn min i fod yr un fath â'r tymheredd presennol.
 - Os yw'r tymheredd presennolyn fwy na (& lt;) gwerth y newidyn max, bydd yn newid y newidyn max i fod yr un fath â'r tymheredd presennol.
 - Mae'r rhaglen hefyd yn fflachio dot ar y dangosydd LED bob tro mae'r ddolen ddiderfyn yn rhedeg fel eich bod yn gwybod ei bod yn gweithio.
 - Gwasgwch fotwm A i ddangos y tymheredd isaf a botwm B i ddangos y tymheredd uchaf a gofnodwyd.
 - Gallech adael y micro:bit yn rhedeg am 24 awr, cofnodi'r tymheredd uchaf ac isaf a'u plotio ar siart ar yr un adeg bob dydd ac wedyn ei ailosod.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 - ffynhonnell gwres neu oeri, megis ffan, os ydych eisiau gweld y tymheredd yn newid yn gyflym - neu mynd â'r micro:bit y tu allan
 - papur graff os ydych eisiau cadw siart o'r tymheredd dros gyfnod o amser
 
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2
3currentTemp = temperature()
4max = currentTemp
5min = currentTemp
6
7while True:
8    display.show('.')
9    currentTemp = temperature()
10    if currentTemp < min:
11        min = currentTemp
12    elif currentTemp > max:
13        max = currentTemp
14    if button_a.was_pressed():
15        display.scroll(min)
16    if button_b.was_pressed():
17        display.scroll(max)
18    sleep(1000)
19    display.clear()
20    sleep(1000)
21Cam 3: Gwella
- Cymharu'r darlleniad â thermomedr arall. Pa mor gywir yw'r micro:bit? A oes angen i chi addasu darlleniad y micro:bit i gael tymheredd yr aer? Sut y gallech wneud hynny?
 - Trosi'r tymheredd yn Fahrenheit.
 - Defnyddio radio i anfon darlleniadau'r tymheredd i micro:bit arall.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


