Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Codio eich anifail anwes electronig eich hun a'i addasu i'w bersonoli. Mae seinydd integredig y micro:bit yn ei wneud hyd yn oed yn fwy o hwyl gyda'i synau mynegiannol.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio newidynnau a dolenni i wneud amserydd syml.
 - Sut i ddefnyddio dewis i wneud i wahanol ddigwyddiadau ddigwydd ar adegau gwahanol.
 - Tric i'w gwneud iddi ymddangos bod rhaglen micro:bit wedi stopio rhedeg!
 
Sut mae'n gweithio
- Dyfeisiwyd anifeiliaid anwes electronig yn Siapan yn yr 1990au a daethant yn degan poblogaidd ledled y byd yn fuan.
 - Maent yn declynnau bach y gallwch eu cadw ar eich cylch allweddi. Dangosir creadur ar ddangosydd syml. Mae'n rhaid i chi ofalu am y creadur, rhyngweithio ag ef drwy wasgu botymau a chwarae gemau syml. Os byddwch yn ei anwybyddu ac na fyddwch yn ei fwydo neu'i lanhau, bydd yn drist, yn camymddwyn neu'n mynd yn sâl.
 - Mae'r cod yn defnyddio newidyn a elwir yn amserydd i gadw llygad am ba mor hir mae'ch anifail anwes wedi'i anwybyddu. Mae dolen am byth yn ychwanegu 1 at yr amserydd bob 1 eiliad (1000 milieiliad).
 - Os bydd yr amserydd yn cyrraedd 20, bydd eich anifail anwes yn dangos wyneb trist ar allbwn y dangosydd LED ac yn gwneud sŵn trist ar allbynnau'r seinydd parod.
 - Os bydd yn cyrraedd 30, bydd eich anifail anwes yn mynd i gysgu.
 - Os bydd yn cyrraedd 40, bydd eich anifail anwes yn gwneud sŵn dirgel ac yn marw. Mae'r cod yn defnyddio bloc 'gosod seinydd parod wedi'i ddiffodd' i atal y seinydd rhag gwneud unrhyw sŵn arall. Mae dolen 'tra bod yn wir' yn sicrhau mai eicon y penglog yn unig sy'n cael ei ddangos ar y dangosydd LED.
 - Ond, bydd eich anifail anwes yn aros yn fyw ac yn hapus os byddwch yn chwarae gydag ef! Tynnu'ch bys dros y logo i'w wneud yn hapus, neu'i ysgwyd i wneud iddo biffian chwerthin. Bydd hyn yn ailosod yr amserydd i 0.
 - Os bydd eich anifail anwes yn marw, gallwch ei atgyfodi drwy wasgu'r botwm ailosod ar gefn eich micro:bit.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit V2 gyda sain (neu efelychydd MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2import audio
3
4timer = 0
5display.show(Image(
6    "00000:"
7    "09090:"
8    "00000:"
9    "09990:"
10    "00000"))
11audio.play(Sound.HELLO)
12
13while True:
14    if pin_logo.is_touched():
15        timer = 0
16        display.show(Image.HAPPY)
17        audio.play(Sound.HAPPY)
18    elif accelerometer.was_gesture('shake'):
19        timer = 0
20        display.show(Image.SURPRISED)
21        audio.play(Sound.GIGGLE)
22    else:
23        sleep(500)
24        timer += 0.5
25        # sleep for half a second only to make it react more quickly to logo touch & shake
26        
27    if timer == 20:
28        display.show(Image.SAD)
29        audio.play(Sound.SAD)
30    elif timer == 30:
31        display.show(Image.ASLEEP)
32        audio.play(Sound.YAWN)
33    elif timer == 40:
34        display.show(Image.SKULL)
35        audio.play(Sound.MYSTERIOUS)
36        break
37    Cam 3: Gwella
- Arbrofi gyda gwahanol amseroedd ar gyfer pob cam o'i fywyd.
 - Creu eich mynegiannau wyneb eich hun gan ddefnyddio dangosydd LED y micro:bit.
 - Ychwanegwch fwy o newidynnau i olrhain pa mor llwglyd neu fudr yw eich anifail anwes, ac ychwanegwch ryngweithiadau newydd i fwydo neu lanhau'ch anifail anwes, er enghraifft trwy bwyso botymau neu wneud sain uchel y bydd meicroffon integredig y micro:bit yn ei glywed.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


