Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Trowch eich BBC micro:bit yn fathodyn enw sgrolio gyda dim ond ychydig o gyfarwyddiadau.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Mae'r prosiect hwn yn gyflwyniad gwych i godio'r micro:bit.
 - Byddwch yn darganfod pa mor hawdd yw hi i greu setiau o gyfarwyddiadau, neu algorithmau, mewn cod, sef iaith y gall cyfrifiadur fel micro:bit ei deall.
 - Mae'r rhaglen y byddwch chi'n ei chreu yn sgrolio testun ar draws y sgrîn i ddangos eich enw.
 - Mae'n defnyddio dolen ddiddiwedd sy'n cadw'ch enw i sgrolio ar allbwn sgrîn LED y micro:bit nes i chi ddad-blygio'r micro:bit o'i fatri neu gebl USB.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Ychwanegwch fwy o flociau ‘dangos llinyn’ i ddweud mwy amdanoch chi’ch hun.
 - Ychwanegwch floc ‘dangos eicon’ i ddangos sut rydych chi’n teimlo neu fynegi eich personoliaeth.
 - Dyluniwch ffordd o wisgo'ch bathodyn micro:bit gan ddefnyddio edau, tâp neu felcro. (Peidiwch â defnyddio pinnau diogelwch gan gallai'r metel ddifrodi eich micro:bit.)
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.


