Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio micro:bit fel cofnodydd data diwifr i recordio darlleniadau o'i synwyryddion.
![micro:bit yn dangos yr echelinau X, Y a Z ar draws, i fyny ac i lawr ac o'r blaen i'r cefn wrth ochr graff o'r data a gasglwyd](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/5c2ed53748032a481b32867573fb899df8622f0a-1371x771.png?w=653&q=80&fit=max&auto=format)
Sut mae'n gweithio
- Fflachio rhaglen y trosglwyddydd ar micro:bit gyda phecyn batri a naill ai ei chysylltu â rhywbeth sy'n symud (fel y tu mewn i droellwr salad) neu fod yn barod i chwarae taflu a dal â hi. Mae'r rhaglen yn cymryd darlleniadau'r mesurydd cyflymiad yn barhaus o'r grymoedd mewn 3 dimensiwn (yr echelinau x, y a z) ac yn eu trosglwyddo dros radio.
- Cysylltu eich micro:bit derbyn â chyfrifiadur drwy USB a fflachio'r rhaglen logio arno gan ddefnyddio ap golygydd Mu Python.
- Mae'r micro:bit hwn yn derbyn data'r mesurydd cyflymiad ac yn eu hanfon fel data cyfresol i'ch cyfrifiadur. Clicio ar y botwm 'Plotter' yn Mu a dylech weld graffiau o'r darlleniadau data byw yn ymddangos ar y sgrin.
- Rhoi synhwyrydd y micro:bit ar bob ochr a gweld sut mae darlleniadau pob echelin yn newid. Taflu'r micro:bit yn yr awyr, ei droelli mewn troellwr salad: beth rydych yn ei weld?
- Mae Mu yn cadw'r data rhifol fel ffeil CSV (gwerthoedd wedi'u gwahanu ag atalnodau) yn ffolder hafan eich cyfrifiadur. Edrych yn 'mu_cod' ac wedyn yn y ffolder 'cadw_data'.
- Gallwch agor y ffeil CSV mewn rhaglen taenlenni i'w dadansoddi. Os byddwch yn dileu'r colofnau ail a thrydedd gwaith, gan adael y gyntaf yn unig, gallwch blotio'r data ar graff gwasgariad yn eich taenlen gan dangos sut mae'r grymoedd wedi newid dros amser.
![taenlen yn dangos graff o ddarlleniadau mesurydd cyflymiad micro:bit](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/63df8795664c99dad9a3c65864e02d4205c273b3-2276x1076.png?w=653&q=80&fit=max&auto=format)
Beth sydd ei angen arnoch
- 2 micro:bit ac un pecyn batri
- gliniadur neu gyfrifiadur bwrdd gwaith i gofnodi data arno
- Ap golygydd Mu Python: https://codewith.mu/
- troellwr salad opsiynol
Cam 2: Codio
Synhwyrydd / trosglwyddydd
Derbynnydd / cofnodydd
Cam 3: Gwella
- Cofnodi darlleniadau synwyryddion eraill y micro:bit o bell yn y ffordd hon, megis darlleniadau tymheredd, golau neu gwmpawd magnetig.
- Cynnal arbrawf ffiseg i ddeall y grymoedd mae'r micro:bit yn eu profi wrth iddo droelli yn y troellwr salad (allgyrchydd). Ydych chi'n gweld yr hyn roeddech yn ei ddisgwyl? (Cofio mai dim ond grymoedd hyd at 2g, dwbl disgyrchiant y Ddaear, y gall mesurydd cyflymiad y micro:bit eu darllen – os byddwch yn troelli'r micro:bit yn gyflym, efallai bydd yn profi grymoedd sy'n rhy fawr iddo eu nodi.)
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
![Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/4d56c9bba1dd53264761c94e9b9e0626d25b2f8d-770x239.png?bg=fff&w=444&q=80&fit=fill&auto=format)
Translation generously supported by the Welsh Government.