Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Cychwyn arni gyda Scratch a micro:bit: gwneud i gath Scratch neidio pan fyddwch yn taflu eich tegan meddal eich hun yn yr awyr.
![Ciplun o brosiect Scratch - cath yn neidio](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/41fcf8a420d056ce6f83c78a51ebbb40d299ad0f-940x688.png?w=653&q=80&fit=max&auto=format)
Sut mae'n gweithio
- Cysylltu pecyn batri â'ch micro:bit a'i gysylltu â Scratch, wedyn ei gysylltu â thegan meddal. Gwarchod y micro:bit fel na fydd yn cael ei niweidio os byddwch yn ei ollwng!
- Wedi'i hysbrydoli gan demo gwych gan Kreg o dîm Scratch, mae'r rhaglen hon yn defnyddio mesurydd cyflymiad y micro:bit i synhwyro pan fydd wedi'i daflu ac yn gwneud i gorlun y gath Scratch neidio ar yr un pryd.
- Ar yr un pryd, mae'r corlun yn newid lliw, yn gwneud sain miaw ac yn gwneud i'r traw fynd yn uwch bob tro rydych yn ei daflu.
- Mae'n defnyddio'r bloc llithro i wneud i Scratch neidio i'r rhan o'r sgrin bob amser, ac wedyn mynd i lawr eto mewn dilyniant.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri
- cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit.
- tegan meddal neu rywbeth meddal ac amddiffynnol i roi eich micro:bit ynddo
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Recordio eich seiniau eich hun i gymryd lle'r 'miaw'.
- Gwneud i rywbeth ymddangos ar ddangosydd y micro:bit pan fyddwch yn ei daflu.
- Newid gwisg y corlun pan fyddwch yn gwasgu botwm ar y micro:bit.
- Gwneud i'r gath Scratch neidio'n uwch bob tro rydych yn taflu eich micro:bit.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
![Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/4d56c9bba1dd53264761c94e9b9e0626d25b2f8d-770x239.png?bg=fff&w=444&q=80&fit=fill&auto=format)
Translation generously supported by the Welsh Government.