Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud offeryn cerdd sy'n codi ofn rydych yn ei reoli drwy chwifio'ch llaw.
![Ciplun o brosiect Scratch - ystlum mewn coed](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/34d649f4836d1de33f51980439465be629f35621-1546x1178.png?w=653&q=80&fit=max&auto=format)
Sut mae'n gweithio
- Mae theremin yn offeryn cerdd sy'n gwneud seiniau sy'n codi ofn pan fyddwch yn symud eich dwylo yn agos ato.
- Mae'r rhaglen yn rhedeg dolen ddiderfyn (am byth) i gymryd darlleniadau yn barhaus o fesurydd cyflymiady micro:bit.
- Mae'n mesur yr ongl gwyro ymlaen ac yn ôl: po fwyaf yr ongl gwyro, uchaf fydd traw'r sain.
- Dysgu mwy am thereminau yma: https://en.wikipedia.org/wiki/Theremin
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit a phecyn batri opsiynol
- cyfrifiadur addas gyda dolen Scratch wedi'i gosod. Gweler https://scratch.mit.edu/microbit i gael manylion am sut i gael Scratch i weithio gyda micro:bit
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Arbrofi gyda seiniau gwahanol offerynnau.
- Recordio'ch seiniau eich hun a'u defnyddio yn lle'r sain hon.
- Defnyddio ongl gwyro i'r chwith a'r dde i reoli lefel y sain, fel gyda theremin go iawn.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
![Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/4d56c9bba1dd53264761c94e9b9e0626d25b2f8d-770x239.png?bg=fff&w=444&q=80&fit=fill&auto=format)
Translation generously supported by the Welsh Government.