Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud tegan synhwyraidd sy'n ymateb i symudiad gyda golau a sain.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio mewnbynnau synhwyrydd mesurydd cyflymu integredig y micro:bit a seiniau mynegiannol fel allbynnau i greu tegan a allai helpu dysgwyr sy'n ymateb yn dda i ysgogiad trwy gyffwrdd, golau a sain. Chwaraeir gwahanol seiniau a dangosir gwahanol luniau gan ddibynnu ar sut rydych yn ei symud.
 
Sut mae'n gweithio
- Mae synhwyrydd mesurydd cyflymiad parod y micro:bit yn mesur grymoedd.
 - Mae'r micro:bit yn defnyddio darlleniadau o'r mesurydd cyflymiad i sbarduno digwyddiadau pan fyddwch yn ei symud mewn gwahanol ffyrdd.
 - Os byddwch yn ysgwyd y micro:bit, bydd yn chwarae sain piffian chwerthin ar allbwn y seinydd parod ac yn dangos gwên ar y dangosydd LED.
 - Mae gwahanol allbynnau eicon a sain yn cael eu sbarduno drwy wahanol symudiadau fel gwyro'r micro:bit i'r chwith a'r dde neu ei roi gyda'r logo yn wynebu i fyny neu i lawr.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit V2 (neu efelychydd MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2import audio
3
4while True:
5    if accelerometer.was_gesture('shake'):
6        display.show(Image.SURPRISED)
7        audio.play(Sound.GIGGLE)
8    if accelerometer.was_gesture('up'):
9        display.show(Image.HAPPY)
10        audio.play(Sound.HELLO)
11    if accelerometer.was_gesture('down'):
12        display.show(Image.ASLEEP)
13        audio.play(Sound.YAWN)
14    if accelerometer.was_gesture('left'):
15        display.show(Image.ARROW_W)
16        audio.play(Sound.SLIDE)
17    if accelerometer.was_gesture('right'):
18        display.show(Image.ARROW_E)
19        audio.play(Sound.SOARING)
20Cam 3: Gwella
- Ychwanegwch luniau a synau gwahanol pan fyddwch chi'n pwyso'r botwm A neu B neu'n cyffwrdd â'r logo.
 - Arbrofwch gyda seiniau mynegiannol gwahanol fel 'piffian', 'hapus' a 'pefrio'.
 - Ychwanegu animeiddiad neu eich lluniau eich hun ar gyfer pob symudiad.
 - Creu cês neu gynhwysydd ar gyfer y micro:bit a phecyn batri sy'n caniatáu i'r sain ddod allan ac i oleuadau'r dangosydd LED ddisgleirio, a allai wasgaru'r golau LED ychydig o bosibl.
 - Os ydych yn athro neu athrawes, efallai bydd gennych ddiddordeb yn ein gwersi Ystafell ddosbarth synhwyraidd.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


