Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud larwm sy'n goleuo ac yn chwarae tôn pan gaiff eich micro:bit ei symud.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Cyflwyniad
Canllaw codio
Sut mae'n gweithio
- Yn y prosiect hwn, byddwch yn gwneud larwm sy'n canu pan fyddwch yn symud eich micro:bit. Gallech ei guddio mewn neu ei roi ar ben rhywbeth gwerthfawr, neu gallech ei roi mewn bag a'i ddefnyddio i'ch atgoffa i wirio bod gennych bopeth sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn mynd allan.
 - Mae gan eich micro:bit fesurydd cyflymiad sy'n mesur grymoedd. Mae'r mesurydd cyflymiad yn canfod ystum ysgwyd ac yn dangos patrwm ar y dangosydd LED.
 - Mae hefyd yn canu alaw rybuddio. I glywed yr alaw, defnyddio'r efelychwr MakeCode neu gysylltu clustffonau â phin 0 a'r GND. Gallwch ddefnyddio seinydd wedi'i fwyhau hefyd.
 - Gwasgu'r botwm ailosod ar gefn eich micro:bit i glirio'r sgrin a'i wneud yn barod i'w ddefnyddio eto.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit
 - Golygydd cod ar-lein MakeCode neu Python
 - pecyn batri
 - seinydd a chlipiau crocodeil opsiynol
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Newid eicon y wyneb i'ch llun eich hun, gan ddefnyddio'r bloc 'dangos leds' yn Make Code neu'r Cyfarwyddyd delwedd yn Python.
 - Yn lle'r alaw, defnyddio eich creadigaeth eich hun neu un o'ch hoff donau.
 - Gwneud y larwm yn fwy sensitif drwy ddefnyddio darlleniadau uniongyrchol o'r mesurydd cyflymiad yn lle'r ystum ysgwyd.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


