Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddiwch eich BBC micro:bit i'ch helpu i gyfrif dwy rywogaeth wahanol o blanhigion neu anifeiliaid ar faes chwarae, gardd neu barc lleol eich ysgol. Byddwch yn dysgu am newidynnau, a defnyddio'r botymau micro:bit ac arddangosiad LED.
Mae'r ddau fideo hyn yn dangos i chi yr hyn y byddwch yn ei greu a sut i'w godio:
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen yn defnyddio newidynnau o'r enw “A” a “B” i storio nifer yr anifeiliaid neu blanhigion sy'n cael eu cyfrif.
 - Mae newidynnau yn storio rhifau neu werthoedd a all newid mewn rhaglen gyfrifiadurol.
 - Ar ddechrau'r rhaglen, mae “A” a “B” wedi'u gosod i sero a sero yn cael ei ddangos ar y sgrîn LED. Dylech bob amser roi gwerth cychwynnol i newidynnau mewn rhaglen gyfrifiadurol fel hon.
 - Pwyswch y botwm A bob tro y byddwch yn gweld anifail neu blanhigyn penodol, er enghraifft, hwyaden, a phob tro bydd un yn cael ei ychwanegu at “A”.
 - Pwyswch y botwm B bob tro y gwelwch blanhigyn neu anifail arall o ddiddordeb, er enghraifft, gŵydd, a phob tro bydd un yn cael ei ychwanegu at “B”.
 - Ysgwydwch eich micro:bit i ddangos y cyfansymiau ar y sgrîn LED.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode
 - pecyn batri (dewisol ond argymhellir)
 
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2
3a = 0
4b = 0
5display.show(0)
6
7while True:
8    if button_a.is_pressed():
9        a += 1
10        display.scroll(a)
11    elif button_b.is_pressed():
12        b += 1
13        display.scroll(b)
14    if accelerometer.was_gesture('shake'):
15        display.scroll('A')
16        display.scroll(a)
17        sleep(1000)
18        display.clear()
19        sleep(2000)
20        display.scroll('B')
21        display.scroll(b)Cam 3: Gwella
- Dewch o hyd i ffordd o ailosod y cyfrifwr, er enghraifft, trwy bwyso botymau A a B gyda'i gilydd.
 - Gwnewch gynrychioliad graffigol o nifer yr anifeiliaid neu blanhigion a gafodd eu cyfrif, er enghraifft, trwy ddefnyddio dotiau.
 - Dangoswch eiconau sy'n cynrychioli'r anifeiliaid neu'r planhigion, neu chwaraewch effeithiau sain, pan fyddwch wedi cyrraedd rhif targed.
 


