Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Troi'r dangosydd LED yn synhwyrydd i wneud i'ch micro:bit ymateb i olau.
![micro:bit yn ymateb i olau haul yn ei gyrraedd drwy ddangos eicon haul ar ei ddangosydd LED](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/ab367a2cd9cc0d67385873386a906c8939a67a90-1449x1276.png?w=653&q=80&fit=max&auto=format)
Sut mae'n gweithio
- Yn ogystal â gweithio fel allbwn, mae LEDs eich micro:bit yn gallu gweithio fel dyfais fewnbwn synhwyrydd golau, yn mesur swm y golau sy'n eu cyrraedd.
- Mae hyn yn golygu y gall rhaglenni micro:bit wneud i wahanol bethau ddigwydd gan ddibynnu ar ba mor olau neu dywyll y mae.
- Mae'r rhaglen yn defnyddio datganiad ‘os… arall’ i ddangos delwedd yr haul os bydd lefel y golau'n fwy na (>) lefel benodol yn unig. Adnabyddir hyn yn ddewis - dewis pan fydd gwahanol bethau'n digwydd.
- Fflachio'r rhaglen hon ar eich micro:bit a defnyddio ffynhonnell golau, fel fflachlamp, golau dydd neu olau nenfwd disglair ar y micro:bit a dylech weld yr haul yn ymddangos.
- Gorchuddio'r micro:bit gyda'ch llaw a dylai eicon yr haul ddiflannu.
- Os nad yw hynny'n gweithio, rhoi cynnig ar wneud y rhif 100 yn llai i fod yn addas ar gyfer y goleuo yn eich lleoliad.
- Gallwch ddarllen mwy o wybodaeth gefndirol am sut mae synhwyrydd golau'r micro:bit yn gweithio yma.
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
- Golygydd MakeCode neu Python
- pecyn batri (opsiynol)
- ffynhonnell golau neu rywbeth i'w ddefnyddio i orchuddio'r micro:bit – bydd eich llaw yn gwneud y tro!
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Dangos llun arall, megis lleuad neu seren, pan fydd yn dywyll.
- Dangos haul wedi'i animeiddio pan fydd golau'n cyrraedd eich micro:bit.
- Troi'r prosiect hwn yn olau nos drwy wneud iddo oleuo dangosydd y micro:bit pan fydd yn tywyllu.
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.
![Ariennir gan Lywodraeth Cymru / Funded by Welsh Government](https://cdn.sanity.io/images/ajwvhvgo/production/4d56c9bba1dd53264761c94e9b9e0626d25b2f8d-770x239.png?bg=fff&w=444&q=80&fit=fill&auto=format)
Translation generously supported by the Welsh Government.