Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Defnyddio swyddogaeth radio'r micro:bit i ateb cwestiynau'n gyfrinachol.

Sut mae'n gweithio
- Fflachio'r rhaglen hon ar ddau micro:bit. Rydych chi a ffrind yn gofyn cwestiynau i'ch gilydd sydd ag atebion 'ie' neu 'na'.
 - Gwasgu botwm mewnbwn A i anfon neges 'ie' a botwm B i anfon neges 'na'. Bydd tic neu groes yn fflachio ar allbynnau dangosydd LED y ddau micro:bit am hanner eiliad.
 - Mae'r rhaglen yn defnyddio radio i anfon eich ateb yn gyfrinachol - ni all neb (ac eithrio eich partner) glywed y signal radio.
 - Pan dderbynnir neges radio, bydd y rhaglen yn defnyddio dewis i brofi'r neges: os yw'r neges a dderbyniwyd yn hafal i 'ie', wedyn bydd yn dangos tic ar y dangosydd LED, ond os yw'r neges yn hafal i 'na', wedyn bydd yn dangos croes.
 - Sicrhau bod y ddau micro:bit yn defnyddio'r un rhif grŵp radio – gallwch ddefnyddio unrhyw rif rhwng 0 a 255.
 - Os bydd llawer ohonoch yn defnyddio'r rhaglen hon yn yr un lle, byddwch eisiau sicrhau bod gan bob pâr o bobl eu rhif grŵp radio eu hunain.
 - Cadw rhif eich grŵp radio yn gyfrinachol os nad ydych eisiau i bobl eraill weld eich negeseuon!
 
Beth sydd ei angen arnoch
- 2 micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 - ffrind a chyfrinach i'w rhannu!
 
Cam 2: Codio
1from microbit import *
2import radio
3radio.config(group=7)
4radio.on()
5
6while True:
7    message = radio.receive()
8    if message:
9        if message == 'yes':
10            display.show(Image.YES)
11            sleep(500)
12            display.clear()
13        elif message == 'no':
14            display.show(Image.NO)
15            sleep(500)
16            display.clear()
17    if button_a.was_pressed():
18        radio.send('yes')
19        display.show(Image.YES)
20        sleep(500)
21        display.clear()
22    if button_b.was_pressed():
23        radio.send('no')
24        display.show(Image.NO)
25        sleep(500)
26        display.clear()
27Cam 3: Gwella
- Dangos gwahanol eiconau neu negeseuon ar gyfer 'ie' a 'na'.
 - Defnyddio ysgwyd, gwyro neu fotymau A a B ar yr un pryd i anfon atebion gwahanol megis 'efallai'.
 - Newid 'ie' a 'na' i 'dot' a 'llinell' ac anfon negeseuon cod Morse.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


