Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Dangos pa mor boeth neu oer yw eich micro:bit gan ddefnyddio'r synhwyrydd tymheredd parod.

Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen hon yn dangos pa mor boeth neu oer yw eich micro:bit drwy gymryd darlleniad o'r synhwyrydd tymheredd yn ei brosesydd neu CPU (uned brosesu ganolog).
 - Mae tymheredd y prosesydd yn frasamcan eithaf da o'r tymheredd o'ch cwmpas mewn °C (Celsius).
 - Yn y rhaglen hon, pan fyddwch yn gwasgu botwm mewnbwn A, bydd y micro:bit yn dangos tymheredd presennol y prosesydd ar ei allbwn dangosydd LED.
 - Mynd â'r micro:bit i mewn i leoedd cynhesach ac oerach a gweld sut mae'r darlleniadau tymheredd yn newid.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode neu Python
 - pecyn batri (opsiynol)
 - ffynhonnell gwres neu oeri, fel ffan, os ydych eisiau gweld y tymheredd yn newid yn gyflym (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Cymharu'r darlleniad â thermomedr arall. Pa mor gywir yw'r micro:bit? A oes angen i chi addasu darlleniad y micro:bit i gael tymheredd yr aer?
 - Trosi'r tymheredd yn Fahrenheit neu Kelvin.
 - Defnyddio radio i wneud synhwyrydd o bell sy'n anfon darlleniadau tymheredd i micro:bit arall, er enghraifft o'r tu allan i'r tu mewn. Gallech wneud thermomedr dan do/y tu allan yn y modd hwn.
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


