Cam 1: Gwneud
Beth yw e?
Gwneud amserydd syml gan ddefnyddio synhwyrydd logo cyffwrdd y micro:bit newydd.
Cyflwyniad
Canllaw codio
Beth fyddwch yn ei ddysgu
- Sut i ddefnyddio synhwyrydd logo cyffwrdd y micro:bit newydd i sbarduno gwahanol ddigwyddiadau pan fyddwch yn ei gyffwrdd a phan fyddwch yn ei ryddhau
 - Sut i ddefnyddio newidynnau a gweithredwyr mathemategol a chloc system i fesur amser
 - Sut i drosi unedau (milieiliadau yn eiliadau) gan ddefnyddio gweithredwyr mathemategol
 
Sut mae'n gweithio
- Mae'r rhaglen yn amseru am ba mor hir rydych yn dal eich bys ar y logo aur ar y micro:bit newydd
 - Mae'r micro:bit yn mesur am faint o amser mae wedi bod ymlaen mewn milieiliadau (milfedau eiliad). Gelwir hyn yn amser rhedeg.
 - Mae'r bloc 'wrth gyffwrdd logo' yn synhwyro pan fyddwch yn cyffwrdd â'r logo'n gyntaf. Mae'n dangos calon ar y dangosydd LED ac yn gosod newidyn a elwir yn cychwyn i gipio'r amser rhedeg presennol.
 - Mae'r bloc 'wrth ryddhau logo' yn synhwyro pan fyddwch yn rhyddhau'r logo. Wedyn, bydd y cod yn tynnu'r amser cychwyn o'r amser rhedeg newydd. Y gwahaniaeth rhwng yr amser rhedeg pan wnaethoch ei ryddhau a'r amser pan wnaethoch ei gyffwrdd yw cyfanswm yr amser roeddech yn dal eich bys ar y logo. Cedwir hyn mewn newidyn a elwir yn amser.
 - Wedyn, bydd y cod yn trosi'r amser o filieiliadau yn eiliadau drwy ei rannu â 1000 ac yn dangos yr amser ar y dangosydd LED.
 - Mae 'wrth gyffwrdd logo' yn sbarduno'n unig pan fyddwch yn rhoi eich bys ar y logo yn gyntaf, yn wahanol i'r bloc 'wrth wasgu logo' a ddefnyddiwyd yn y Prosiect bathodyn emosiwn cyffwrdd, sy'n ymddwyn fel botymau A a B ac yn cael eu sbarduno pan fyddwch yn gwasgu ac yn rhyddhau'r botwm yn unig.
 
Beth sydd ei angen arnoch
- micro:bit newydd â sain (neu efelychwr MakeCode)
 - Golygydd MakeCode
 - pecyn batri (opsiynol)
 
Cam 2: Codio
Cam 3: Gwella
- Addasu'r rhaglen er mwyn i eicon gwahanol neu eich llun eich hun ymddangos pan fyddwch yn cyffwrdd â'r logo.
 - Ychwanegu newidyn i olrhain cyfanswm yr amser a recordiwyd.
 - Gwneud yr amserydd yn fwy manwl gywir gan ddefnyddio ffracsiynau rhifau yn lle cyfanrifau (rhifau cyfan).
 
This content is published under a Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0 International (CC BY-SA 4.0) licence.

Translation generously supported by the Welsh Government.


